Pwy Yda Ni
Owain Gwynedd
Yn dilyn dechreuad academaidd i’w yrfa fel myfyriwr LLB Gyfraith, wedi ei ddilyn gan cwrs cyfrifeg ACCA, mae Owain Gwynedd wedi mwynhau gyrfa amrywiol fel cyflwynydd a gohebydd dros y 10 mlynedd diwethaf.
Gall rhywun weld Owain yn ddyddiol ar raglenni Prynhawn Da ac Heno, S4C, tra hefyd yn parhau i ddilyn ei frwdfrydedd o ddarlledu chwaraeon gydag Premier Sport, S4C, Radio Cymru a Radio Wales.
Mae o hefyd wedi ei weld ar BT Sport, ITV 2 a Sianel 5 yn y gorffennol.
Gall Rygbi’r Dreigiau, CPD Dinas Caerdydd, ac S4C cael eu hychwanegu i’w CV corfforaethol.
Fel cyflwynydd, mae cyfraniadau Owain wedi arwain at enwebiadau gwobr BAFTA Cymru a 'Mind'.
‘Digwyddiadau 218’ ydi’r bennod nesa mewn gyrfa diddordol ac amrywiol - cyfle i gyfuno brwdfrydedd a gwybodaeth i lunio busnes i fod yn falch o honno.


Geraint Hardy
Mae Geraintt Hardy yn wyneb ac llais cyfarwydd i nifer, yn dilyn gyrfa llwyddiannus dros y 12 mlynedd diwethaf, tra’n cyflwyno ar sianeli fel S4C, CBBC, Radio Wales, Radio Cymru a Capital FM.
Mae o hefyd yn gyflwynydd corfforaethol profiadol - wedi gweithio gydag UEFA, Uwchgynair Barclays, Principailty, SONY UK, Celtic Manor Resort, CPD Dinas Caerdydd, Olympic Broadcast Service, LOCOG a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
Yn ei gyfnod fel cyflwynydd mae o wedi bod ynghlwm a phrosiectau sydd wedi ei henwebu am wobrau BAFTA Plant a BAFTA Cymru, a wedi bod yn ffodus i ennill BAFTA Cymru a dau gwobr Arqiva.
Mae’i brofiad a gwybodaeth o fewn y diwydiant wedi ei arwain i sefydlu ‘Digwyddiadau 218’ ond mae o hefyd yn rhedeg y cangen Cyflwyno yn Regan Management - yn defnyddio’i gysylltiadau eang i ddarganfod gwaith i eraill o fewn y diwydiant darlledu.