Fanzones Cwpan y Byd
S4C & FAW


Bydd Cymru'n chwarae'r Alban neu'r Wcráin ar 5ed Mehefin mewn un o'r gemau pêl-droed mwyaf yn hanes Cymru. Mae lle yng Nghwpan y Byd Pêl-droed FIFA 2022 yn Qatar ynghyd a gêm grwp yn erbyn Lloegr yn y fantol.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac S4C, darlledwr swyddogol gemau Cymru, wedi dod at ei gilydd i greu dwy 'fanzone' swyddogol ar gyfer y diwrnod tyngedfennol. Maent wedi gofyn i Digwyddiadau 218 i'w cynorthwyo i greu y dygwyddiadau neillduol yma.
I'r rhai sy'n methu bod yn y gêm yng Nghaerdydd, bydd digon o gyfle i fwynhau'r awyrgylch arbennig ar ddiwrnod gêm yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon a Chanolfan Cymry Llundain, Camden.
Bydd camerâu Sgorio, S4C yno i fwynhau awyrgylch gwych y ddau leoliad gyda’r cannoedd o gefnogwyr Cymreig angerddol, a fydd heb os, mewn llais canu da.
Dywedodd Owain Gwynedd, cyfarwyddwr 218 Events, “Rydym yn falch o chwarae rhan bach yn yr hyn a fydd yn achlysur gwych, nid yn unig i bêl-droed Cymru, ond i Gymru gyfan hefyd.
I’r rhai sydd wedi dilyn Cymru dros y 60 mlynedd diwethaf mae’n gyfle i weld Cymru o’r diwedd yn cyrraedd y digwyddiad pêl-droed mwyaf y byd, a dim ond yn ail i’r Gemau Olympaidd fel y digwyddiad chwaraeon sy’n cael ei wylio fwyaf.”
Ychwanegodd Geraint Hardy, cyfarwyddwr 218 Events, “mae'n wyh i’r cwmni i fod yn rhan o ddiwrnod hanesyddol a chyffrous, gadewch i ni groesi popeth mae Cymru’n gwneud y busnes ar y cae felly dyma fydd y cyntaf o lawer o ddigwyddiadau pêl-droed eleni”.
Mae Cymru yn paratoi ar gyfer rownd derfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd ar ôl buddugoliaeth wefreiddiol dros Awstria yng Nghaerdydd ac i chwarae yn eu Cwpan Byd cyntaf ers 1958
Gem ail-gyfle
Roedd rownd derfynol y gemau ail gyfle i fod i gael ei chynnal ym mis Mawrth, ond gofynnodd awdurdodau pêl-droed yr Wcrain i’w gêm gynderfynol gael ei gohirio ar ôl i Rwsia oresgyn y wlad.
Bydd Cymru yn chwarae enillydd gornest yr Alban yn erbyn yr Wcrain a fydd yn cael ei benderfynu bedwar diwrnod cyn hynny ar ddydd Mercher, Mehefin 1af.
Bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd, KO 5:00
Yn dilyn tymor hir a chaled, mae mis Mehefin hefyd yn mynd i fod yn fis prysur i'r Dreigiau.
Bydd Cymru yn chwarae yng Nghynghrair y Cenhedloedd o amgylch y rownd derfynol allweddol, gan deithio i Wlad Pwyl ar Fehefin 1af cyn chwarae yn erbyn yr Iseldiroedd ddwywaith a Gwlad Belg.
Un buddugoliaeth arall a bydd Cymru yn mynd i Qatar.
Tocynnau a gwybodaeth
Neuadd y Farchnad, Caernarfon
https://www.facebook.com/MarketHallDre/events/
Canolfan Cymry Llundain
https://londonwelsh.org/events/world-cup-play-off-final/
